badger linocut
Creu-ad logo

 

Tudalen cartref
Mwy am Creu-ad
Defnyddio'r Celfyddydau
Prosiectau Gorffenedig
Prosiectau sy'n Datblygu
Gwaith gyda Chymunedau
Gweithio â Creu-ad
Dolennau

English version

 

 

Gellir cysylltu â Creu-ad trwy:

Shelagh Hourahane,
ffôn: 01970 832 898 & 07885 971862
Lynne Denman,
ffôn: 01570 480 818 & 07789 743815

 

Cerflun barcud gan Roger Newman

Cerflun barcud gan Roger Newman

 

 

Prosiectau sy'n Datblygu: Bwlch Nant-yr-Arian

gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Bydd y prosiect hwn yn darparu celfwaith deongliadol ar gyfer Canolfan Ymwelwyr newydd a llwybrau coed ddeng milltir i'r dwyrain o Aberystwyth.

Mae Creu-ad wedi cynllunio a gwneud amrywiaeth o gelfwaith deongliadol o fewn Canolfan yr Ymwelwyr:

  • byrddau a seddau i blant
  • pared bren fawr
  • testun dwyieithog yn adlewyrchu ymateb barddonol i'r coed.
  • baneri sy'n mynegi ymateb synhwyrus ac emosiynol i goed.

Cynhaliwyd cyfres o weithdai gydag ysgolion cynradd lleol a phlant hyn i ddatblygu syniadau ar gyfer y baneri, testunau a phethau eraill yn y Ganolfan.

Y tu allan, mae cerflun porth arloesol wedi cael ei wneud i Lwybr y Barcud yn ogystal ag arwydd o bren a llechi ar ddechrau Llwybr y Grib sy'n arwain y cerddwr i olygfa lle y mae panel mosaeig deongliadol mawr wedi cael ei osod.

Mae'r mosaeig yn dehongli gwerth emosiynol a diwylliannol coed, pwysigrwydd rhywogaethau penodol, gan gynnwys y barcud coch a'r ffordd y mae'r dirwedd wedi cael ei defnyddio, ei newid a'i rheoli gan bobl.

Nôl

 

 

O olygfan y plinth, gan edrych tuag at Lyn Blaen Melindwr

O olygfan y plinth, gan edrych tuag at Lyn Blaen Melindwr

 

Cynllun baner wedi'i wneud gan ddisgyblion ysgolion uwchradd Aberystwyth mewn gweithdy haf gyda Judy Macklin a Paul Webster

Cynllun baner wedi'i wneud gan ddisgyblion ysgolion uwchradd Aberystwyth mewn gweithdy haf gyda Judy Macklin a Paul Webster


 

Mosaig gan Lynne Denman a Shelagh Hourahane wrth olygfan y plinth

Mosäig gan Lynne Denman a Shelagh Hourahane wrth olygfan y plinth