Creu-ad


Gwneud argraff ym maes dehongli treftadaeth

 

Banded snail sculpture by Creu-ad at YnyslasCroeso i wefan Creu-ad


Rydym yn cydweithio â chleientiaid a chymunedau mewn ffyrdd arloesol a chreadigol i fynegi hunaniaeth leol ac ymdeimlad â lle.


Mae ein gwaith yn cynnwys ysgrifennu cynlluniau dehongli a dod o hyd i atebion cyffrous i ddehongli treftadaeth naturiol a diwylliannol ynghyd â phrosiectau adfywio.


Rydym yn hwyluso dweud straeon cymunedol trwy weithdai, prosiectau celf ddeongliadol a hyfforddiant.


Rydym yn arbenigo mewn defnyddio'r celfyddydau fel offer i ddehongli'r amgylchedd naturiol a threftadaeth.


Mae 'creu' yn rhan annatod o'n henw gan gael ei adleisio yn enw'r aderyn yn ein logo, sef y 'crëyr.'