Gwneud argraff ym maes dehongli treftadaeth
Croeso i wefan Creu-ad.
Rydym yn cydweithio â chleientiaid a chymunedau mewn ffyrdd arloesol a chreadigol i fynegi hunaniaeth leol ac ymdeimlad â lle.
Mae ein gwaith yn cynnwys ysgrifennu cynlluniau dehongli a dod o hyd i atebion cyffrous i ddehongli treftadaeth naturiol a diwylliannol ynghyd â phrosiectau adfywio. Rydym yn hwyluso dweud straeon cymunedol trwy weithdai, prosiectau celf ddeongliadol a hyfforddiant.
Rydym yn arbenigo mewn defnyddio’r celfyddydau fel offer i ddehongli’r amgylchedd naturiol a threftadaeth.
Gallwn weithio’n ddwyieithog yn y Saesneg ac yn y Gymraeg.
Mae ‘creu’ yn rhan annatod o’n henw gan gael ei adleisio yn enw’r aderyn yn ein logo, sef y ‘crëyr.’ |
|