
Tudalen cartref
Gellir cysylltu â Creu-ad trwy:Shelagh Hourahane, Ymdeimlad o Gyrraedd:
|
Ymdeimlad o Gyrraedd yng Nghoedydd AberMae Coedydd Aber, â'r rhaeadr ym mhen ucha'r cwm, wedi denu ymwelwyr ers y 19eg ganrif.Mae pobl yn byw yma ac yn rheoli'r cynefin ers yr oesoedd cynharaf. Un arwydd o hyn yw safle bryngaer o'r Oes Haearn. Arwydd arall yw'r coed gwern yn y cwm a dorrid i wneud gwadnau clocsiau. Ceir cennau pwysig, adar, fel y Gwybedog Brith ac anifeiliaid gan gynnwys y mochyn daear a'r llwynog. Cynhaliwyd cyfarfodydd ag aelodau o'r gymuned leol a'r bartneriaeth sy'n rheoli'r warchodfa er mwyn trafod y prosiect ac adnabod themâu i'w dehongli. Sylweddolwyd bod y llwybrau, waliau a llidiardau i gyd yn ymwneud â'r bobl a fu'n defnyddio'r ardal, ond y byddai gan yr anifeiliaid sy'n byw yma ffyrdd hollol wahanol o ddefnyddio'r cwm. Bu disgyblion o'r ysgol gynradd yn Llanfairfechan yn cydweithio â'r artistiaid Lynne Denman a David Lloyd i ddatblygu cynlluniau ar gyfer map amgen a fydd yn dangos sut mae anifeiliaid yn defnyddio'r cwm. Bydd Cerflun y Llwybrau Gwyllt yn cael ei gerfio o goed gan David Lloyd. |
Gweithio ar fosäig ar gyfer Llwybrau Gwyllt Aber yng Nghoedydd Aber
Llwybrau Gwyllt Aber gan David Lloyd a Roger Newman a phlant Ysgol Pantyrhedyn
|