badger linocut
Creu-ad logo

 

Tudalen cartref
Mwy am Creu-ad
Defnyddio'r Celfyddydau
Prosiectau Gorffenedig
Prosiectau sy'n Datblygu
Gwaith gyda Chymunedau
Gweithio â Creu-ad
Dolennau

English version

 

 

Gellir cysylltu â Creu-ad trwy:

Shelagh Hourahane,
ffôn: 01970 832 898 & 07885 971862
Lynne Denman,
ffôn: 01570 480 818 & 07789 743815

Ymdeimlad o Gyrraedd:
Tywyn Niwbwrch
Ynys-las
Cors Caron
Bae Oxwich
Coedydd Aber

 

Print o ddwrgi gan blentyn yn Ysgol Uwchradd Tregaron ar gyfer cerflun Casgliad Cors Caron yng Nghors Caron.

Print o ddwrgi gan blentyn yn Ysgol Uwchradd Tregaron ar gyfer cerflun Casgliad Cors Caron yng Nghors Caron

 

 

Ymdeimlad o Gyrraedd yng Nghors Caron

Tirwedd sydd wedi esblygu'n araf mewn haenau dros amser maith.

Buom yn archwilio'r thema hon gan egluro tair elfen y Warchodfa, sef, yr afon, y gors a'r ymylon o ran y creaduriaid byw a phlanhigion y gellir eu cysylltu â phob elfen.

Golygai'r prosiect Ymdeimlad o Gyrraedd yng Nghors Caron ryngweithio â'r gymuned leol drwy gyfarfodydd ymgynghori agored a gweithdai mewn sawl digwyddiad yn lleol.

Mae dau gerflun yn ffurfio mynedfeydd i'r llwybr estyllod sydd newydd ei osod ac sy'n gadael i ymwelwyr gerdded ar y Gors. Bu Judy Macklin yn gweithio â grwp o Ffermwyr Ifainc Tregaron i wneud y Fynedfa Helyg fyw.

Dysgodd y grwp am y broses o gydweithio â helyg a daethant yn fwy cyfarwydd â Chors Caron.

Gwaith Brian Denman ac Ami Marsden yw'r Fynedfa Goed. Bu'r ffermwyr ifainc hefyd yn dysgu sgiliau sylfaenol cerfio coed fel y gallent helpu i wneud rhai elfennau o'r adeiledd.

Mae a wnelo'r cerfiadau mwyaf manwl â bioamrywiaeth y tri chynefin sy'n ffurfio'r warchodfa.

Gwahoddwyd Ysgol Uwchradd Tregaron i weithio ar y prosiect.

Bu tîm o artistiaid, Jenny Fell, Teena Gould ac Ami Marsden yn gweithio â thua 60 o ddisgyblion i wneud printiau, cerameg a cherfiadau coed, a fydd yn cael eu cynnwys mewn cerflun deongliadol i'w osod yn y maes parcio arfaethedig i'r warchodfa.

Cynlluniwyd casgliad Cors Caron, cerfluniaeth a fydd yn cynnwys gwaith celf deongliadol a wnaethpwyd gan y plant ysgol, gan Angharad Jones, ac mae wedi'i wneud gan Gideon Petersen.

Mae'n ddigon tebyg i wal o gloeriau ysgol gan adael i bethau newydd gael eu cyflwyno yn nes ymlaen.

 

 

Afon Teifi yng Nghors Caron

Afon Teifi yng Nghors Caron

 

Bwa helyg yng Nghors Caron a wnaethpwyd gan Judy Macklin ac aelodau           o Ffermwyr Ifainc Tregaron

Bwa helyg yng Nghors Caron a wnaethpwyd gan Judy Macklin ac aelodau o Ffermwyr Ifainc Tregaron

 

Manylyn o'r 'Bwa Coed' yng Nghors Caron - yr afon

Manylion o'r 'Bwa Coed' yng Nghors Caron - yr afon - gan Ami Marsden a Brian Denman