
Tudalen cartref
Gellir cysylltu â Creu-ad trwy:Shelagh Hourahane, |
Prosiectau sy'n Datblygu: Dolennau Iaithgyda Menter Maldwyn a chlwstwr o bentrefi yn Sir Drefaldwyn yn y canolbarth. Bydd Dolennau Iaith yn rhoi cyfle i gymunedau pentrefi yn Sir Drefaldwyn i ddysgu am ddolennau rhwng yr iaith a'r dirwedd a sut mae'r enwau rydym yn eu defnyddio yn datgelu'r cymeriad arbennig sy'n perthyn i le arbennig.Mae enwau lleol yn gallu consurio hanes dynol o'r cyfnodau cynharaf, cymeriad daearegol y dirwedd a byd natur, y ffordd mae'r tir wedi cael ei amaethu a'i reoli, a'r straeon a'r mythau sydd wedi cael eu hadrodd. Bydd y prosiect hwn yn cefnogi ac yn ehangu gwybodaeth o'r Gymraeg ymhob cymuned ac yn defnyddio ffyrdd creadigol o helpu pobl i fynegi eu teimladau am y dirwedd leol drwy wahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau. Bwriad y prosiect yw creu cyfres o gerfluniau pentref. Bydd y rhain yn mynegi cymeriad arbennig yr ardal a byddant yn cael eu cynllunio a'u cynhyrchu gan bobl leol. Llanbrynmair yw'r pentref cyntaf i gymryd rhan, ac ym mis Mehefin 2004, treuliodd artistiaid Creu-ad, Lynne Denman, Shelagh Hourahane a Claudine le Corre, ddiwrnod yn Ysgol Llanbrynmair, gan helpu'r plant i feddwl am ystyr enwau tai, ffermydd a nodweddion y dirwedd yn y fro. Gwnaethpwyd baneri i'w defnyddio mewn digwyddiadau yn nes ymlaen. Ym mis Medi bu penwythnos o weithgareddau i bawb yn y gymuned:
Ar hyn o bryd mae llwybr cerdded treftadaeth Llanbrynmair yn cael ei gynllunio gan y grwp lleol. |
Y dirwedd o gwmpas Llanbrynmair
Disgyblion yn peintio baner yn Ysgol Llanbrynmair
Y ddwy faner a wnaethpwyd gan Ysgol Llanbrynmair yn ystod gweithdai gyda Claudine Le Corre, Lynne Denman a Shelagh Hourahane |