badger linocut
Creu-ad logo

 

Tudalen cartref
Mwy am Creu-ad
Defnyddio'r Celfyddydau
Prosiectau Gorffenedig
Prosiectau sy'n Datblygu
Gwaith gyda Chymunedau
Gweithio â Creu-ad
Dolennau

English version

 

 

Gellir cysylltu â Creu-ad trwy:

Shelagh Hourahane,
ffôn: 01970 832 898 & 07885 971862
Lynne Denman,
ffôn: 01570 480 818 & 07789 743815

Ymdeimlad o Gyrraedd:
Tywyn Niwbwrch
Ynys-las
Cors Caron
Bae Oxwich
Coedydd Aber

 

Merlod yn pori ar y twyni yn Niwbwrch

Ymdeimlad o Gyrraedd yn Niwbwrch

Mae'r twyni yn Niwbwrch yn ffurfio cwningar anferth sy'n fagwrfa i gwningod ers canrifoedd.

Mae'n gynefin cyfoethog i blanhigion blodeuol ac adar ac yn draddodiadol, mae wedi cael ei bori gan ferlod.

Roedd y moresg sy'n tyfu yno'n arfer cael eu defnyddio gan y pentrefwyr hefyd, i blethu'n garthenni ar gyfer teisi gwair, rhaffau a basgedi.

Naddwyd y Wal Lechi gan Valerie Coffin Price ar ffens grawiau a oedd yno'n barod. Bu'n cydweithio â disgyblion Ysgol Niwbwrch i greu rhai syniadau cychwynnol i'r delweddau ac wedyn yn datblygu'r cynlluniau.

Mae'n dangos cyfoeth byd natur yn y warchodfa trwy gynrychioli adar, planhigion ac anifeiliaid a geir yno ar wahanol adegau'r flwyddyn.

Hefyd, mae a wnelo'r prosiect â'r hen ddiwydiant gwehyddu neu blethu moresg yn Niwbwrch.

Mae ychydig wragedd yn y pentref yn dal i gofio dysgu'r sgil tra oeddynt yn yr ysgol.

Bu dwy ysgol gynradd leol yn cymryd rhan a threuliodd Vania Nicholas, gweithwraig fetel a Dee Walker, gwneuthurydd basgedi lleol, bum wythnos gyda'r 92 o blant, gan eu helpu i ddysgu am y traddodiad lleol trwy archwilio sgiliau gwehyddu a phlethu gyda gwahanol ddefnyddiau.

Ann Catrin Evans, gof lleol a gweithwraig fetel, a gynlluniodd y Cerflun Moresg.

Mae'n ymdebygu i'r gafrod neu ysgubau a wneid i sychu'r moresg cyn dechrau gweithio arnynt.

Mae'r cerflun yn cynnwys delweddau a thestun sy'n cyfeirio at y cysylltiadau traddodiadol rhwng y warchodfa natur a'r gymuned ac at y gwaith celf sydd wedi'i gynhyrchu gan y plant.

 

Merlod yn pori ar y twyni yn Niwbwrch

 

Manylyn o ffyngau a boda wedi'u naddu ar y 'Wal Lechi' gan Valerie Coffin Price
Manylyn o ffyngau a boda wedi'u naddu ar y 'Wal Lechi' gan Valerie Coffin Price

 

'Cerflun Moresg' gan Ann Catrin Evan

'Cerflun Moresg' gan Ann Catrin Evans

 

Vania Nicholas sy'n dangos technegau plethu yn Ysgol Gymuned Dwyran

Vania Nicholas sy'n dangos technegau plethu yn Ysgol Gymuned Dwyran