
Tudalen cartref
Gellir cysylltu â Creu-ad trwy:Shelagh Hourahane,
Manylyn o collage gan ddisgyblion yn Ysgol yr Ysbryd Glyn, Abergwaun Llun gan ddisgybl yn Ysgol Cas-blaidd |
Prosiectau sy'n Datblygu: Ogam Sir Benfrogyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, Menter Iaith Sir Benfro, Ysgol Bro Gwaun a Chywaith Cymru. Mae Creu-ad yn cydweithio â disgyblion Ysgol Uwchradd Abergwaun ac wyth ysgol gynradd i ddylunio a chreu celfwaith deongliadol ar ddarn o dir o fewn tiroedd yr ysgol.Bydd yn mynegi themâu sy'n ganolog i Brosiect yr Ogam; sef, hybu'r dolennau rhwng y Gymraeg a'r amgylchedd naturiol yn Sir Benfro. Bydd prosiect celf y tir yn creu lle tawel i ddisgyblion ei fwynhau a bydd yn cynnwys elfennau sy'n cyfeirio at y dirwedd leol, hanes, cymeriadau a llenyddiaeth. Mae'r artistiaid, Shelagh Hourahane, Lynne Denman a David Lloyd, eisoes wedi cydweithio â disgyblion ysgolion cynradd i dynnu lluniau, gwneud modelau clai, teils lliwgar a mapiau collage sy'n canolbwyntio ar y hyn sy'n bwysig i'r plant yn yr ardal lle y maent yn byw. Cwblheir y prosiect hwn yn ystod Haf 2005. |
Yr Harbwr a’r Dre Isaf, Abergwaun
Map y Pentref gan ddisgyblion Ysgol Mathri
Manylyn o collage gan ddisgyblion yn Ysgol yr Ysbryd Glyn, Abergwaun |