
Tudalen cartref
Gellir cysylltu â Creu-ad trwy:Shelagh Hourahane, |
Prosiectau sy'n Datblygu: Dehongli Pen Dinas a Than-y-Bwlchgyda Chyngor Sir Ceredigion. Bydd y prosiect hwn yn helpu cymuned yn y canolbarth ger Aberystwyth i archwilio apêl ei gwarchodfa natur leol.Bydd yn cyflwyno cryn nifer o bobl, yn arbennig pobl ifainc, i'r warchodfa natur leol gan ennyn eu hymwneud ag:
Gwahoddwyd Creu-ad i ysgrifennu cynllun deongliadol i'r warchodfa ac i awgrymu ffyrdd o'i weithredu. Yng Nghyfnod Un - 2003/4 - bu grwp Cefnogi Pen Dinas a Than-y-bwlch a gwahanol grwpiau yng nghymuned Penparcau gerllaw yn cymryd rhan. Cyfnod Dau - 2005 - gweithgaredd arfaethedig ar gyfer Wythnos Gweithredu Bioamrywiaeth (Mehefin 11-19) yw y Llwybr Creadigol, pryd y bydd gweithiau celf a wneir yn y gweithdai cymunedol ar ddangos dros dro o gwmpas y warchodfa. Gwneir rhywfaint o'r rhain o wastraff a defnyddiau ailgylchedig er mwyn codi ymwybyddiaeth am gyfyngu swmp y defnyddiau gwastraff a gynhyrchir - mae'r hen gladdfa sbwriel yn dal tunelli o wastraff sydd wedi'u hel dros y blynyddoedd. Cyfnod Tri - 2006 - Yn dechrau'r broses o ddatblygu hen safle tirlenwi yn y warchodfa fel celfwaith sy'n dehongli'r tir ac fel mwynder deniadol a buddiol ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr. Hyd yn hyn cyllidir y prosiect gan Gymunedau'n Gyntaf, Cyngor Sir Ceredigion a Chronfa Enfys i Lefydd Gwyrdd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. |
Pen Dinas o Dan-y-Bwlch
Disgyblion yn Ysgol Llwyn yr Eos yn gweithio ar faner gyda Lynne Denman a Catherine Hutton
Gweithdy rhagarweiniol i sgiliau helyg ar gyfer Clwb Ieuenctid Penparcau gyda Judy Macklin a Step Renshaw |