A allai Creu-ad gyfrannu at eich prosiect?
|

|
Byddem yn cynnal cyfarfod cychwynnol i drafod syniad eich prosiect
|
A ydych yn grwp gwledig cymunedol sydd am fynegi ymdeimlad â lle?
|

|
Byddem yn hwyluso gweithdai i egluro pam bod eich lle mor arbennig
|
A oes gennych ddiddordeb mewn datblygu sgiliau newydd yn eich cymuned?
|

|
Rydym am ddefnyddio sgiliau lleol sydd eisoes ar gael a hefyd cyflwyno rhai newydd i bobl o bob oed
|
A ydych yn rheolwr/wraig cefn gwlad dros safle sydd angen ei ddehongli'n ddychmygus?
|

|
Byddem yn cydweithio â chi i benderfynu pam bod eich safle'n arwyddocaol a sut y gellid mynegi hyn.
|
A hoffech gydweithio ag artistiaid?
|

|
Mae gan artistiaid amrywiaeth eang o sgiliau. Gallwn gael hyd i'r bobl iawn ar gyfer eich prosiect. Bydd yn brofiad gwerth chweil.
|
A yw'ch cymuned yn Gymraeg ei hiaith yn bennaf, neu a hoffech annog defnyddio mwy o Gymraeg?
|

|
Byddwn yn gweithio'n ddwyieithog gan ddefnyddio'r Gymraeg lle bynnag y bo modd mewn cyfarfodydd, gweithdai a gwaith creadigol.
|

|