
Tudalen cartref
Gellir cysylltu â Creu-ad trwy:Shelagh Hourahane, Ymdeimlad o Gyrraedd:
Y Ganolfan Ymwelwyr ar ol ei trawsnewid...gan Mick Petts |
Ymdeimlad o Gyrraedd yn Ynys-lasAmgylchedd deinamig sydd wedi'i greu gan effeithiau'r hinsawdd, ei safle agored, y môr, y gwynt a'r llanw.Cynlluniwyd Cysgodion Moresg gan Mick Petts fel ymdriniaeth gerfluniol â'r Ganolfan Ymwelwyr. Mae'n integreiddio'r adeilad â'i amgylchedd gan fynegi ansawdd deinamig y twyni. Mae'n cynnwys testun cerddi am Ynys-las a ysgrifennwyd gan blant Ysgol Craig-yr-wylan, y Borth, yn ystod gweithdai â Menna Elfyn a Gillian Clarke. Bu Jenny Fell yn eu helpu i wneud Y Llyfr Mawr, fersiwn darluniedig o'r cerddi. Mick Petts a gynlluniodd wylfa'r Falwoden Resog sy'n galluogi ymwelwyr i fwynhau'r olygfa i fyny aber afon Dyfi. Seilir ffurf yr wylfa ar un o'r malwod rhesog sy'n byw yn y twyni tywod. Mae'r adeiledd yn rhoi cyfle i chi i werthfawrogi bod hyd yn oed greaduriaid mān yn bwysig wrth gynnal yr ecosystem yn y warchodfa. Mae'r Mosäig yn cysylltu dwy ran y Ganolfan Ymwelwyr. Mae'r elfen ar y llawr yn canolbwyntio ar chwedl Cantre'r Gwaelod, y wlad a foddwyd o dan Fae Ceredigion, tra bo'r Mosäig ar y wal yn dangos delweddau o'r holl amrywiaeth o blanhigion, anifeiliaid ac adar sydd i'w gweld yn Ynys-las yn ystod pedwar tymor y flwyddyn. Cynlluniwyd y Mosäig gan Jenny Fell, a fu'n gweithio â grwpiau cymunedol i wneud y prif elfennau. Fe'i rhoddwyd yn ei le gyda chymorth Judy Macklin ac Annie Horner. |
Mynedfa i Ganolfan Ddehongli Ynys-las
Twyni Ynys-las
Gwelfa'r Falwen Resog yn nhwyni Ynyslas gan Mick Petts
· Mosaig yn dangos 'Trysorau Tymhorol Ynyslas' gan Jenny Fell |